Jacpot歌词由Melin Melyn演唱,出自专辑《Jacpot》,下面是《Jacpot》完整版歌词!
Jacpot歌词完整版
Fe wariais yn galed drwy ddyfalbarhau
I gyflawni’r freuddwyd fawr.
Baglais ac fe laddaist fy ysbryd
Yn sgerbwd ar y llawr.
‘Sgwydais y sbwriel, ciciais y dail wrth y rheilffordd.
Darganfyddais fy hun yn crynu yn gorn wrth y groesffordd.
Crwydrais y strydoedd yn meddwl yn ffol
Am dactegau i fod yn lwyddiant.
Drwy ffenestri tywyll, fflachiodd y cyfle
I ymddangos mewn cwis adloniant.
A thrwy’r blwch post, glaniodd y tocyn ar y bwrdd. *****Dwy nn yn glaniodd?
Dyma’r galwad euraidd i olchi’r tristwch i ffwrdd.
I feddwl nad o’n i’n dy nabod tan
I ni’n dau gystadlu ar y sgrîn.
Pwy fyddai’n meddwl y galle ti fod ****checkio os ma meddwl dwin ganu fan hyn
Mor greulon i gamdrin
Fy moment fawr gyda miloedd yn gwylio o’n cymdeithas?
Codaist yr amlen, rhwygaist y felcro mor gas.
Ond, pam oedd rhaid ti wenu?
Oedda ti yn crefu
I’r wlad i ngweld i’n fethiant?
Sut fedrwn i ddim sylwi ar Gymru gyfan
Yn chwerthin ar fy aflwyddiant?
A nawr dwi’n rhynnu yn y gell, er gollwng y gyllell.
Dim siawns am faddeuant na chyfle i droi’r cloc yn ôl....
Ond fedrwn i ddim maddau i ti am ategu…
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim cuddly toy na hyd yn oed car
Dim cegin newydd na self service bar
Dim cash prize na gwyliau i’r cyfandir
Just ateb sych yn fy ngadael ar y sychdir.
‘Na i gyd oedd gan ti i ddweud oedd....
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti,
So…
Dim jacpot i ni.