Pwdu Yn Y Pentre歌词由Lo-fi Jones演唱,出自专辑《Llanast yn y Llofft》,下面是《Pwdu Yn Y Pentre》完整版歌词!
Pwdu Yn Y Pentre歌词完整版
Pwdu yn y pentre’ bach
Lle mae'r plant wedi diflasi'n llwyr
Mae 'na ddigonedd o awyr iach
Ond mar’ buses yn brin
Delwedd brydferth, Ti yw'r penbleth
Ac mae meddwl i'n mynd i rywle pell o fan hyn
Lle mae'r golau fel cusan yn teimlo fel trydan
Ffigyrau yn dawnsio yng nghanol y chwildro
Rwy mond yn breuddwydio, ond dwi methu gwylio mwy
Yr un hen bethau sydd fan hyn
Dwi'm isio dysgu gyrru car
Llosgi olew pan mae'r byd ar dan
Isio safio pob un geiniog sbâr
A beicio dros y bryn
Pennau petrol, Syth o’r ysgol
Yng nghanol y nos
Cadw fi o fy nghwsg
Maen nhw'n galw fo'n rhyddid
Ond i fi mae'n jyst swnllyd
A mae rhai o' ni'n dianc a rhai o ni'n styc
My careers advisor smiled and shrugged is it time you gave up?
Yr un hen bethau sydd fan hyn?
Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Mae bywyd mor fyr
A'i gychwyn yn cymryd rhy hir
Pwdu yn y pentre’ bach
A dwi’n cuddio yn fy ngwely, tu ôl i’r llenni llwyd
Golau olau’r haf
Yn suddo dros y bryn
Adar mudol, eto’n gadael
Mi fynnai fynd hefyd, rywle bell o fan hyn
Ceisio codi ond rwy'n dal i ddisgyn
Awyrennau yn yr awyr las
Rhyddid a llygredd y benbleth atgas
Yr Yn hen bethau sydd fan hyn
Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Mae bywyd mor fyr
A'i gychwyn yn cymryd rhy hir
Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Gad i mi drosgynnu
Cynnau fy mywyd i
Tydi realiti
Dim yn cyflawni
Mae bywyd mor fyr
A'i gychwyn yn cymryd rhy hir